Ymgyrchoedd

Skip the page content navigation if you do not require links to content sections within this page.

Page Content Navigation

Skip the primary navigation if you do not want to read it as the next section.


Primary Navigation

Skip the main content if you do not want to read it as the next section.


Gofal Arthritis – Yn ymgyrchu dros newid….

Mae Gofal Arthritis yn ymgyrchu er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl sy’n byw gydag arthritis ar draws Cymru gyfan yn ogystal â bywydau eu teuluoedd.

Mae pobl ag arthritis yn gweithio ac yn gwirfoddoli ar bob lefel o fewn Gofal Arthritis, ac rydym yn gwybod yn iawn nad yw gwasanaethau a materion sy’n ymwneud ag arthritis wedi cael eu hystyried yn ddigon o flaenoriaeth yn y gorffennol gan y rheiny sy’n gwneud penderfyniadau ar sawl lefel o fewn y llywodraeth a’r GIG.

Rydym yn deall yr effaith y mae’r diffyg blaenoriaeth hwn yn ei chael yn ddyddiol ar fywydau pobl ag arthritis.

Rydym yn ymwybodol o’r camsyniadau cyffredin sy’n bodoli ynghylch arthritis – sef y syniad bod arthritis yn effeithio ar bobl hŷn yn unig ac nad oes llawer y gellir ei wneud i drin yr anhwylder neu gyfyngu ar ei effaith – ac rydym yn ymwybodol o’r niwed y mae camdybiaethau o’r fath yn ei achosi.

Beth mae Gofal Arthritis yn ei wneud ynghylch hynny felly?

Mae Gofal Arthritis yn ymgyrchu yn lleol, yng Nghymru, yn y DU ac yn Ewrop i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth pobl o arthritis a sicrhau bod gwasanaethau ar gyfer pobl ag arthritis yn cael blaenoriaeth ac adnoddau priodol.

Rydym yn ymgyrchu mewn modd adeiladol er mwyn cydweithio â darparwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol a’u cynorthwyo i wella’u gwasanaethau mewn ffyrdd sy’n golygu bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol a bod anghenion pobl leol ag arthritis yn cael eu diwallu. Ewch i gael rhagor o wybodaeth am faterion sy’n ymwneud ag ymgyrchoedd Gofal Arthritis.

Unrhyw lwyddiannau?

Mae Gofal Arthritis wedi ymgyrchu’n llwyddiannus i godi ymwybyddiaeth o arthritis a sicrhau bod mwy o flaenoriaeth yn cael ei rhoi i arthritis yn lleol, yng Nghymru, yn y DU ac yn Ewrop. Ewch i gael rhagor o wybodaeth am lwyddiant ymgyrchoedd Gofal Arthritis hyd yn hyn.

A all unrhyw rai gymryd rhan yn ymgyrchoedd Gofal Arthritis?

Gallant. Gellir cymryd rhan yng ngwaith ymgyrchu Gofal Arthritis mewn sawl ffordd. Ewch i gael rhagor o wybodaeth am y rhan y gallwch chi ei chwarae yn ein gwaith ymgyrchu.

Cysylltwch â ni!

Os oes gennych broblem – boed fawr neu fach – yr ydych yn credu y dylem ni fod yn ymgyrchu yn ei chylch, neu os hoffech gymryd rhan yn ymgyrchoedd Gofal Arthritis, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Mae croeso i chi ein ffonio ni neu anfon neges e-bost atom. Cofiwch ymweld â’r wefan hon pan gewch chi gyfle – byddwn yn diweddaru’r tudalennau sy’n sôn am ymgyrchoedd yn ogystal â’r tudalennau eraill yn rheolaidd.




Click on map to go to your area.

Scotland Northern Ireland North England Wales Central England South England

Share this page:

 
 
 
 

The following page sections include static unchanging site components such as the page banner, useful links and copyright information. Return to the top of page if you want to start again.


Page Extras

Skip the main banner if you do not want to read it as the next section.


Page Banner

Call our FREE confidential helpline 0808 8004050

End of page. You can return to the page content navigation from here.