Skip the primary navigation if you do not want to read it as the next section.
Primary Navigation
|
Hafan
|
|
Skip the main content if you do not want to read it as the next section.
Brian
Gwelodd fy ngwraig i hysbyseb ‘Peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun’ yn y papur. Roedd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan Gofal Arthritis yn y Fflint, ac enw’r cwrs oedd Herio Arthritis.
Lillian
Heb os, gwnaeth y cyrsiau roedden nhw’n eu cynnal fy helpu i ennill y frwydr i fod yn berson annibynnol.
Brian
Un o’r pethau gorau am gyrsiau Gofal Arthritis yw’r cyfle i siarad â grŵp o bobl ag arthritis sy’n deall eich sefyllfa. Gallwch chi deimlo’r empathi sydd yn yr ystafell.
Lillian
Rwy’n meddwl mai blaenoriaeth gyntaf unrhyw rai sydd ag unrhyw fath o anabledd yw cynnal eu hannibyniaeth. Â chymorth Gofal Arthritis a thrwy fod yn wirfoddolwr, rwyf wedi llwyddo i wneud hynny.
Mary
Rwyf wedi dysgu sgiliau hunanreoli da iawn, er enghraifft, dysgu gwneud pethau wrth fy mhwysau, gofalu amdanaf fy hun a dysgu y gall ymarfer corff helpu. Pan gefais i fy niagnosio gyntaf, roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n gaeth i’r stôl ac na fyddwn i’n gallu gwneud unrhyw beth. Nawr, rwy’n gwybod beth i’w wneud pan fydd yr anhwylder yn fy nharo. Galla i wneud ymarferion ymlacio a gwneud ychydig o ymarfer corff.
Brian
Roedd p’un a oeddwn i’n cael diwrnod da neu ddiwrnod gwael ac ati’n rheoli fy mywyd. Ar ôl y cwrs, penderfynais y byddai pob diwrnod yn ddiwrnod da o hynny ymlaen. Penderfynais gymryd mwy o reolaeth ar fy mywyd.
Mary
Mae’r cymorth gymaint yn fwy grymus pan fydd rhywun yn deall, yn gwybod sut r’ych chi’n teimlo, ac wedi gwneud yr holl bethau r’ych chi wrthi’n eu gwneud.
Brian
Mae’r cyrsiau rwy’ wedi eu dilyn ers hynny wedi bod yn werthfawr iawn. Mae grŵp hunangymorth ar gael lle mae pawb mor gefnogol i’w gilydd yn yr ystafell - mae’n rhyfeddol.
Mary
Dyma’r presgripsiwn gorau posib ar gyfer arthritis. Mae’n well nag unrhyw gyffur sydd ar y farchnad, wir i chi.
The following page sections include static unchanging site components such as the page banner, useful links and copyright information. Return to the top of page if you want to start again.
End of page. You can return to the page content navigation from here.